For Employers
Rheolwr Caffael / Procurement Manager


Grwp Cynefin
16 hours ago
Posted date
16 hours ago
N/A
Minimum level
N/A
Full-timeEmployment type
Full-time
BuyerJob category
Buyer
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy'n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu'r iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i'r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy'n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â'n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r person cywir a rhywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Fel y Rheolwr Caffael byddwch yn arwain ar ddatblygu a gweithredu Strategaethau Caffael a Gwerth Cymdeithasol y sefydliad, gan sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r Ddeddf Gaffael 2023, a'r safonau perthnasol.

Bydd y deiliad yn sicrhau bod prosesau caffael yn gadarn, tryloyw ac yn sicrhau'r gwerth gorau, ochr yn ochr ag ymgorffori budd cymdeithasol dilys ar draws holl gontractau'r sefydliad.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw.

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Betsan Ifan, Pennaeth Gwella Busnes 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £45,041 - £50,695 y flwyddyn

Lleoliad: Hyblyg - Dinbych neu Pengroes / Gweithio a adref

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd (pro rata)

Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Disgrifiad Swydd DS Rheolwr Caffael 02.26.pdf

JD Procurement Manager 02.26.pdf

Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 16 Mawrth 2026

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Related tags
-
JOB SUMMARY
Rheolwr Caffael / Procurement Manager
Grwp Cynefin
Edinburgh
16 hours ago
N/A
Full-time

Rheolwr Caffael / Procurement Manager