For Employers
{en}Finance and Procurement Administrator{/en}{cy}Gweinyddwr Cyllid a Chaffael{/cy}


ESTYN
18 hours ago
Posted date
18 hours ago
N/A
Minimum level
N/A
Full-timeEmployment type
Full-time
BuyerJob category
Buyer
{en}
Introduction

Estyn is the education and training inspectorate for Wales, and we're passionate about helping every learner access high-quality education and training. We work closely with providers, offering support, promoting strong accountability, and helping shape a positive future for education across Wales.

Our people are at the centre of our mission. We're proud to offer a supportive, inclusive, and collaborative workplace where everyone feels valued, respected, and able to grow.

What we're looking for

We are seeking two organised and proactive Administrators to join our Finance and Procurement Services team. One role will support our Finance function and one will support Procurement, providing high-quality administrative support, maintaining accurate records, and helping to deliver efficient, customer-focused services across Estyn. We are looking for individuals with excellent attention to detail, strong communication skills, and the ability to work effectively in a busy and collaborative environment.

When you apply, you will be applying for both roles, as they are assessed against the same criteria. At interview, we will ask candidates their preferred role, either in finance or procurement and will endeavour to place successful candidates in their preferred role.

Why work for Estyn

At Estyn, you'll join a collaborative and inclusive organisation that values professional growth and wellbeing.

Benefits include:
  • Generous holiday entitlement - 41 days away from work each year (made up of 32 days of annual leave, plus 9 public/privilege holidays - pro-rated for those who work part-time).
  • Wellbeing time - 1 hour of wellbeing time per week, in addition to holidays (pro-rated for those who work part-time).
  • A flexible and hybrid working environment, supporting work-life balance through homeworking, team days, flexitime, and regular all-staff events.
  • A strong commitment to learning and development.
  • Excellent pension - access to the Civil Service Pension scheme. We contribute 28.97% of your salary, which equates to £7,913 per year.
  • Support for your wellbeing - access to an employee assistance programme, free annual health checks, seasonal flu jabs, and a free eye care scheme.
  • Support for your family life - generous family friendly policies including maternity, paternity, and adoption leave.
  • Special offers and discounts - access to a range of discounts and exclusive offers through the Civil Service Social Club and a cycle to work scheme.

Diversity and inclusion

At Estyn, we're committed to building a diverse and inclusive workforce where everyone feels valued and supported.

We actively encourage applications from underrepresented groups, including people from ethnic minority backgrounds and disabled people. We're proud to be a Disability Confident Employer and are happy to provide reasonable adjustments throughout the recruitment process.

We value different perspectives and lived experiences, believing that a diverse team leads to stronger ideas, richer discussions, and better outcomes for learners across Wales.

More information

Full details of working for us, and more information on the role and who we are looking for, can be found here.

Guidance on how to apply can be found here.

You will be prompted to complete an application form during the process, but for ease, please download the form here and upload it at stage 3 of the application.

If you have any questions about the role, please contact [email protected].

{/en} {cy}
Cyflwyniad

Estyn yw'r arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru ac rydym yn angerddol am helpu pob dysgwr i fanteisio ar addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel.

Rydym yn cydweithio'n agos â darparwyr, gan gynnig cymorth, hybu atebolrwydd cryf a helpu i lunio dyfodol cadarnhaol ar gyfer addysg ledled Cymru.

Mae ein pobl wrth wraidd ein cenhadaeth. Rydym yn falch o gynnig gweithle cefnogol, cynhwysol a chydweithredol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u bod yn gallu tyfu.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano

Rydym yn chwilio am ddau Weinyddwr trefnus a rhagweithiol i ymuno â'n tîm Cyllid a Chaffael. Bydd un rôl yn cefnogi ein swyddogaeth Gyllid a bydd un yn cefnogi Caffael, gan ddarparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel, cynnal cofnodion cywir, a helpu darparu gwasanaethau effeithlon sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar draws Estyn. Rydym yn chwilio am unigolion sy'n rhoi sylw rhagorol i fanylder, yn meddu ar fedrau cyfathrebu cryf, a'r gallu i weithio'n effeithiol mewn amgylchedd prysur a chydweithredol.

Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwch yn gwneud cais am y ddwy rôl, gan eu bod yn cael eu hasesu yn erbyn yr un meini prawf. Yn ystod y cyfweliad, byddwn yn gofyn i ymgeiswyr pa rôl sydd orau ganddynt, naill ai ym maes cyllid neu gaffael, a byddwn yn ymdrechu i benodi ymgeiswyr llwyddiannus i'w rôl ddewisol.

Pam gweithio i Estyn

Yn Estyn, byddwch yn ymuno â sefydliad cydweithredol a chynhwysol sy'n gwerthfawrogi twf proffesiynol a lles.

Mae'r buddion yn cynnwys:
  • Hawl hael i wyliau - 41 diwrnod i ffwrdd o'r gwaith bob blwyddyn (sy'n cynnwys 32 diwrnod o wyliau blynyddol a 9 diwrnod o wyliau cyhoeddus/braint ar sail pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser).
  • Amser lles - 1 awr o amser lles yr wythnos, yn ogystal â gwyliau (ar sail pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser).
  • Amgylchedd gwaith hyblyg a hybrid, sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd trwy weithio gartref, diwrnodau tîm, oriau hyblyg a digwyddiadau rheolaidd i'r holl staff.
  • Ymrwymiad cryf i ddysgu a datblygu.
  • Pensiwn rhagorol - y gallu i fanteisio ar gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn cyfrannu 28.97% o'ch cyflog, sy'n gyfwerth â £7,913 y flwyddyn.
  • Cymorth ar gyfer eich lles - y gallu i fanteisio ar raglen cymorth i weithwyr, gwiriadau iechyd blynyddol am ddim, pigiadau ffliw tymhorol a chynllun gofal llygaid am ddim.
  • Cefnogaeth i'ch bywyd teuluol - polisïau hael sy'n ystyriol o deuluoedd, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu.
  • Cynigion a gostyngiadau arbennig - y gallu i fanteisio ar ystod o ostyngiadau a chynigion arbennig trwy Glwb Cymdeithasol y Gwasanaeth Sifil a chynllun beicio i'r gwaith.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Yn Estyn, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu amrywiol a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Rydym yn annog yn weithredol geisiadau gan grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a phobl anabl. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a gallwn ddarparu addasiadau rhesymol ar hyd y broses recriwtio.

Rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau a phrofiadau bywyd gwahanol, gan gredu bod tîm amrywiol yn arwain at syniadau cryfach, trafodaethau cyfoethocach a deilliannau gwell i ddysgwyr ledled Cymru.

Mwy o wybodaeth

Mae manylion llawn am weithio i ni a gwybodaeth am y rôl a phwy rydym yn chwilio amdanynt i'w gweld yma.

Mae arweiniad ar sut i wneud cais i'w weld yma.

Gofynnir i chi lenwi ffurflen gais yn ystod y broses ond, er hwylustod, lawrlwythwch y ffurflen yma a'i lanlwytho yn ystod cam 3 y cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â [email protected].
{/cy}
Related tags
-
JOB SUMMARY
{en}Finance and Procurement Administrator{/en}{cy}Gweinyddwr Cyllid a Chaffael{/cy}
ESTYN
Cardiff
18 hours ago
N/A
Full-time

{en}Finance and Procurement Administrator{/en}{cy}Gweinyddwr Cyllid a Chaffael{/cy}